Cynulliad Cenedlaethol Cymru I National Assembly for Wales

 

Y Pwyllgor Plant, Pobl lfanc ac Addysg I Children, Young People and Education

 

Committee Hynt y gwaithgan Lywodraeth Cymruwrth ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru I Welsh Government's progress in developing the new Curriculum for Wales

 

CR 26

 

Ymateb gan: Comisiynydd y Gymraeg

Response from: Welsh Language Commissioner

 

Diolch ichi am y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad ar ddatblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae f’ymateb yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd i Gymru, ac yn benodol y berthynas rhwng y cwricwlwm newydd a strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

1. Sylwadau rhagarweiniol

Ar lefel gyffredinol rwyf yn croesawu’r argymhellion a gynigwyd yn adroddiad yr Athro Donaldson mewn perthynas â’r Gymraeg. Cesglir yn yr adroddiad y dylid cadw’r

Gymraeg yn rhan orfodol o’r cwricwlwm hyd at oed 16 ac y dylai ‘ysgolion ganolbwyntio o’r newydd ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel ffordd o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu a deall yr iaith lafar’. Mae’r adroddiad yn awgrymu bod angen ystyried y Gymraeg yn sgil y mae angen ei ddatblygu a’i ymarfer ar draws y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod unigolion yn ei gweld yn ffordd naturiol o gyfathrebu. Mae’r Athro Donaldson hefyd yn pwysleisio y dylid ail-lunio cymwysterau iaith Gymraeg yn 16 oed gan roi’r pwyslais arfaethedig ar siarad, gwrando a defnyddio’r iaith yn y gweithle. Nid yn unig mae’r adroddiad yn pwysleisio rôl y cwricwlwm o ran creu siaradwyr Cymraeg, ond hefyd fod angen i’r cwricwlwm gael ei wreiddio yn niwylliant a hanes Cymru, er mwyn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth o’r iaith fel rhan allweddol o hunaniaeth unigryw’r genedl.

 

Er bod gweledigaeth Donaldson yn un gadarnhaol, rwyf yn pryderu ynglŷn â sut yn union mae’r weledigaeth hon yn cael ei gwireddu yn ystod y broses o gynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm newydd. Rhan o’r broblem yw diffyg eglurder a gwybodaeth. Y tu hwnt i ddisgrifiadau cyffredinol a haniaethol iawn ynglŷn â natur y cwricwlwm newydd, nid oes eglurder ynglŷn â natur a chynnwys y cwricwlwm o ran y Gymraeg. Mae’n debyg bod hyn yn anorfod i ryw raddau o ystyried natur datblygu’r cwricwlwm newydd, lle mae pwyslais amlwg ar rôl ysgolion arloesi yn siapio a llunio’r cwricwlwm fesul Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh).

Mae’r sylwadau sy’n cael eu cynnig yma felly yn cael eu gwneud ar sail darlun anghyflawn, ac ar brydiau aneglur, o’r hyn sy’n ceisio cael ei gyflawni o ran y Gymraeg yn y cwricwlwm newydd. Rwyf felly yn ystyried y papur hwn yn gyfle i rannu tystiolaeth ac i gyfrannu at y drafodaeth ynglŷn â’r broses o lunio a siapio cyfeiriad y cwricwlwm newydd o ran y Gymraeg.

2. Cyd-destun polisi

Er mai’r ddogfen Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl (2017-21) yw cynllun gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer addysg, Cymraeg 2050 yw’r strategaeth sy’n darparu gweledigaeth a chyfeiriad i’r sector addysg o ran y Gymraeg.

Mae strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yn gosod dau amcan uchelgeisiol:

§    Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 562,000 (cyfrifiad 2011) i 1 miliwn erbyn 2050.

§    Cynyddu canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn ddyddiol o 10% (yn 2013-15) i 20% erbyn 2050.

Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn darparu cynllun gweithredu ar gyfer rôl y sector addysg yn cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg. At hyn, ceir nifer o dargedau penodol ynglŷn â chyfraniad y sector addysg at y broses o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r camau gweithredu a’r targedau hyn yn cael eu hategu a’u datblygu ymhellach yng Nghynllun Gweithredu y Gymraeg mewn addysg 2017-21 a hefyd yng Nghynllun Gweithredu Cymraeg 2050 (2018-19).

Mae’r strategaeth a’r cynlluniau gweithredu cysylltiedig yn amlinellu nifer helaeth ac eang o bwyntiau gweithredu gwahanol. Er hyn, ymddengys bod tair ffrwd gwaith yn greiddiol i weddill y strategaeth addysg:

§    Cynyddu niferoedd sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg

 

§    Cyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru a gweddnewid y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg

§    Cynyddu’r nifer o athrawon sy’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gallu dysgu’r Gymraeg fel pwnc

Er bod ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan allweddol o strategaeth Cymraeg 2050, mae’r Llywodraeth yn pwysleisio bod gan y sector addysg cyfrwng Saesneg gyfraniad hollbwysig i’w wneud i greu siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol. Ar hyn o bryd ychydig iawn o ddisgyblion yn y sector addysg cyfrwng Saesneg sy’n datblygusgiliau digonol yn y Gymraeg i ddefnyddio’r iaith mewn ffordd ystyrlon tu allan i’r dosbarth. Mae’r Llywodraeth yn glir iawn eu bod am weld y sefyllfa hon yn cael ei gweddnewid.

Mae’r taflwybr i’r miliwn o siaradwyr yn seiliedig ar y ffaith y bydd nifer gynyddol o unigolion yn gadael y sector addysg cyfrwng Saesneg yn nodi eu bod yn gallusiarad Cymraeg. Yn 2031 er enghraifft, rhagdybir y bydd 35% o fyfyrwyr yn gadael y sector addysg cyfrwng Saesneg yn nodi eu bod yn siarad Cymraeg. Yn 2050, yn y targed yw 50%.

Ffigur 1: Y taflwybr i’r miliwn o siaradwyr a chyfraniad y sector addysg. Wedi’i addasu o Gynllun gweithredu y Gymraeg mewn addysg 2017-21 Llywodraeth Cymru

Nifer siaradwyr Cymraeg

2017

570,000

2021

600,000

2026

630,000

2031

680,000

2036              2041

750,000          830,000

2046

920,000

2050

1,000,000

 

Sut bydd y system addysg yn cyfrannu at y targedau uchod

Cynyddu’r nifer sy’n

22%

24%

30%

 

40%

derbyn addysg cyfrwng

7,700

8,400

10,500

 

14,000

Cymraeg

 

 

 

 

Cynyddu’r nifer sy’n

Cyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru

55% (19,000)

Holl ddysgwyr

70% (24,500)

gadael yr ysgol yn siarad

 

 

 

 

Cymraeg

 

35% (8,500)

Sector cyfrwng Saesneg

50% (10,500)

Athrawon cynradd sy’n

2,900

3,100

3,900

 

5,200

addysgu drwy gyfrwng y

 

 

 

 

Gymraeg

 

 

 

 

Athrawon uwchradd sy’n

1,800

2,200

3,200

 

4,200

addysgu drwy gyfrwng y

 

 

 

 

Gymraeg

 

 

 

 

Athrawon uwchradd sy’n

500

600

900

 

1,200

addysgu y Gymraeg fel

 

 

 

 

pwnc

 

 

 

 

 

Yn ôl cynlluniau a strategaethau’r Llywodraeth, cyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru fydd yn ysgogi’r newidiadau hyn i’r ffordd y bydd y Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Rhan allweddol o gyflwyno’r cwricwlwm fydddiddymu'r cymhwyster Cymraeg ail-iaith, a datblygu un continwwm ieithyddol ar gyfer addysgu’r Gymraeg ar draws ysgolion Cymru.

3. Cyd-destun hanesyddol

Mae’r Gymraeg wedi bod yn bwnc statudol yng Nghwricwlwm Cymru yng Nghyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 ers 1990, ac yng Nghyfnod Allweddol 4 ers 1999.

Er bod astudio Cymraeg yn orfodol, mae cryn amrywiaeth yn cwricwlwm y bydd disgyblion yn ei ddilyn, ac mae’r amser a ddyrennir i astudio’r pwnc yn amrywio’n sylweddol rhwng ysgolion gwahanol. Yn gyffredinol, bydd unigolion naill ai yn dilyn cymhwyster Cymraeg iaith gyntaf neu Gymraeg ail iaith. Mae hefyd amrywiaeth eang yng nghyfrwng iaith gweddill y cwricwlwm, sy’n hynod arwyddocaol o ran deilliannau ieithyddol tebygol y dysgwyr. Mae mwyafrif y myfyrwyr sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg yn dilyn cymhwyster Cymraeg iaith gyntaf. Mae mwyafrif y myfyrwyr sy’n mynychu addysg cyfrwng Saesneg yn dilyn cymhwyster Cymraeg ail iaith. Mae’r sefyllfa yn fwy cymhleth ac amrywiol yng nghyd-destun trefniadau disgyblion mewn ysgolion dwyieithog, o ran pa gymhwyster Cymraeg y byddant yn ei ddilyna beth yw cyfrwng iaith gweddill y cwricwlwm.

 

Ffigur 2: categorïau ieithyddol ysgolion cynradd Cymru (yn seiliedig ar ddata CYBLD).

Categori Ysgol

 

Disgrifiad

Nifer yr ysgolion 2017/18

%

disgyblion 2017/18

Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg

O leiaf 70% o’r dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae disgwyl i’r myfyrwyr drosglwyddo i addysg uwchradd cyfrwng Gymraeg

368

 

29%

21%

Ysgol gynradd dwy ffrwd

Dau fath o ddarpariaeth yn bodoli ochr yn ochr, un ffrwd cyfrwng Cymraeg ac un ffrwd cyfrwng Saesneg

32

 

2.5%

3%

Ysgol gynradd trawsnewidiol

Categori dros dro fel arfer lle mae 50-70% o’r dysgu yn Gymraeg ac mae disgwyl y bydd y mwyafrif o’r disgyblion yn mynychu addysg uwchradd cyfrwng Saesneg

4

 

<1%

<1%

Ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn bennaf

Y Gymraeg yn cael ei defnyddio 20-50% o’r amser dysgu ac mae disgwyl y bydd mwyafrif y disgyblion yn mynychu addysg uwchradd cyfrwng Saesneg

33

 

2.5%

2%

Ysgol gynradd cyfrwng Saesneg

Y Saesneg sy’n cael ei defnyddio ar gyfer addysgu'r cwricwlwm ac mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu fel ail iaith. Mae disgwyl i’r disgyblion drosglwyddo i addysg uwchradd cyfrwng Saesneg

 

824

 

65%

 

74%

 

Ffigur 3: categorïau ieithyddol ysgolion uwchradd Cymru (yn seiliedig ar ddata CYBLD).

 

Categori Ysgol

 

Disgrifiad

Nifer yr ysgolion 2018/17

%

disgyblion 2018/17

Ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg

Pob pwnc (heblaw Saesneg) yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

18 (9%)

8.7%

 

 

 

Ysgol uwchradd ddwyieithog

2A

o leiaf 80% o’r pynciau yn Gymraeg yn unig

15 (8%)

4.5%

2B

o leiaf 80% o’r pynciau ar gael yn Gymraeg, ond hefyd ar gael yn Saesneg

10 (5%)

5%

2C

50-79% ar gael yn Gymraeg ond hefyd ar gael yn Saesneg

4 (2%)

1.4%

2CH

addysgir pob pwnc i bob disgybl gan ddefnyddio’r naill iaith a’r llall

-

-

Ysgol uwchradd Saesneg ond a defnydd

sylweddol o’r Gymraeg

 

20-49% o’r pynciau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ond pob pwnc yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg hefyd.

8 (4%)

4.1%

Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg

Y cwricwlwm yn bennaf yn Saesneg a’r Gymraeg yn cael ei haddysgu fel ail iaith

140

(72%)

76.2%


Rhan o gymhlethdod y term ‘addysg ddwyieithog’ yw ei fod yn aml yn cael ei ddefnyddio at bwrpas amrywiol ac i gyfeirio at ystod eang o raglenni addysg sydd ag amcanion ieithyddol gwahanol. Mae’n bwysig nodi nad yw pob ffurf o addysg ddwyieithog o reidrwydd yn arwain at ddwyieithrwydd o safbwynt y dysgwyr.

Yng Nghyfnod Allweddol 4 mae disgyblion naill ai yn dewis astudio cymhwyster Cymraeg iaith gyntaf, neu gymhwyster Cymraeg ail iaith. Yn y gorffennol mae disgyblion cwrs Cymraeg ail iaith wedi cael dewis pellach rhwng dilyn cwrs llawn neu fyr, a hefyd yr opsiwn o ddilyn fersiwn gymhwysol o’r cyrsiau hyn.

Mae tua 80% o’r disgyblion yng Nghymru sy’n dewis sefyll arholiad pwnc Cymraeg TGAU yn dewis un o’r opsiynau Cymraeg ail iaith. O’r rheini, mae mwy bob tro yn dewis y cwrs Cymraeg ail iaith byr o’i gymharu â’r cwrs llawn.

Yn hanesyddol mae lefel cyrhaeddiad disgyblion mewn Cymraeg ail iaith wedi bodyn isel o gymharu â phynciau eraill.

Nid yw Cymraeg ail iaith yn bwnc craidd yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru ac felly nid yw lefelau cyrhaeddiad yn y pwnc hwn yn cael eu hystyried mor bwysig â lefel cyrhaeddiad mewn pynciau craidd eraill wrth fesur perfformiad ysgolion. Mae’n debyg bod hyn yn egluro pam nad yw nifer sylweddol o ddisgyblion yng Nghymruyn ennill unrhyw gymhwyster yn y Gymraeg.

Ffigur 4: Canran y disgyblion ym Mlwyddyn 2 a 9 a asesir yn Gymraeg (iaith gyntaf) fel rhan o asesiadau athrawon (data o adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar Strategaeth y Gymraeg 2012-17).

 

2009

2010

2011

2012

2013

2014

2015

2016

Blwyddyn 2

21%

21.8%

21.9%

21.9%

22.4%

22.2%

22.2%

22%

Blwyddyn 9

15.9%

16%

16.3%

16.8%

17%

17.1%

17.8%

17.9

 

Ffigur 5: Canran y disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer y mathau gwahanol o arholiadau Cymraeg yng Nghyfnod Allweddol 4 rhwng 2010-17 (yn seiliedig ar ddata arholiadau CBAC). Nid yw’r ffigyrau hyn yn cynnwys y nifer sylweddol o ddisgyblion na wnaeth eistedd arholiad Cymraeg o gwbl.

 

Cymraeg iaith gyntaf

Cymraeg ail iaith llawn

Cymraeg ail iaith llawn cymhwysol

Cymraeg ail iaith byr

Cymraeg ail iaith byr cymhwysol

2010

19%

26%

10%

36%

9%

2011

19%

25%

10%

35%

11%

2012

18%

28%

6%

35%

13%

2013

18%

27%

6%

37%

11%

2014

18%

26%

8%

37%

11%

2015

18%

29%

8%

35%

10%

2016

17%

28%

8%

38%

9%

2017

21%

31%

9%

35%

5%

 

 

Ffigur 6: Canran y disgyblion a gafodd A* i C mewn TGAU Cymraeg ail iaith 2010-17 (yn seiliedig ar ddata arholiadau CBAC).

 

Cymraeg ail iaith llawn

Cymraeg ail iaith llawn cymhwysol

Cymraeg ail iaith byr

Cymraeg ail iaith byr cymhwysol

2010

73.8

70.3

49.4

40.9

2011

73.8

66.3

49.2

45.5

2012

74.1

72.2

49.5

50.0

2013

76.6

78.3

49.5

52.5

2014

76.5

81.7

52.3

44.4

2015

78.5

82.9

51.8

48.0

2016

78.8

82.0

52.6

50.0

2017

79.8

80.3

54.2

60.8

 

Mae amryw o adroddiadau gwahanol yn llunio casgliadau hynod feirniadol o’r graddau y mae dilyn cwrs Cymraeg ail iaith yn llwybr effeithiol ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae adolygiad yr Athro Sioned Davies (2013) yn nodi ei bod yn ‘unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith’, gan mai niferoedd bach iawn o’r disgyblion sy’n astudio Cymraeg ail iaith sy’n datblygu sgiliau digonol yn y Gymraeg iddefnyddio’r iaith y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae casgliadau adroddiad annibynnol gan Robert Hill (2013) yn debyg gan nodi mai dim ond mewn un o bob deg ysgol y mae disgyblion yn gwneud cynnydd ardderchog wrth gaffael sgiliau Cymraeg ail iaith. Mae Adroddiad Blynyddol 2017-18 Estyn yn nodi mai ‘dim ond mewn rhyw chwarter o ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg y mae disgyblion yn parhau i ddatblygu’u medrau Cymraeg’ ac yng ngweddill yr ysgolion nad yw ‘disgyblion yn datblygu’u medrau siarad Cymraeg yn ddigon da...ac nid yw’r hyder ganddynt i geisio siarad Cymraeg.’

Mae tystiolaeth o ddata cyfrifiad 2011 yn cefnogi casgliadau’r arbenigwyr hyn. Er bod y Gymraeg wedi bod yn bwnc statudol ar draws pob cyfnod allweddol yng Nghymru er 1999, ac felly bod y mwyafrif helaeth o unigolion yn y categori 16-24 oed wedi derbyn cwricwlwm lle mae’r Gymraeg yn elfen orfodol, dim ond 22% ohonynt sy’n nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg.


Ffigur 7: Canran y boblogaeth yng Nghymru â’r gallu i siarad Cymraeg fesul grŵp oedran (yn ôl Cyfrifiad 2011).

 

Er na ellir gwybod yn union beth yw cyfansoddiad y 22% o ran cyfrwng iaith eu haddysg, mae’r ffaith fod y ffigwr yma yn agos iawn at y nifer sydd wedi derbyn addysg cyfrwng Gymraeg, neu wedi dilyn llwybr Cymraeg iaith gyntaf, yn awgrymu mai ychydig iawn o’r unigolion sydd wedi derbyn cwricwlwm Cymraeg ail-iaith sy’n eu hystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg yn y tymor hir.

Er bod ffigyrau grŵp oedran 10-14 oed yn llawer uwch, gellir cwestiynu i ba raddau mae’r ffigyrau hyn yn adlewyrchu enillion ieithyddol dilys. Hynny yw, naill ai mae nifer helaeth o’r unigolion hyn yn colli’r gallu i ddefnyddio’r iaith wedi iddynt adael yr ysgol, neu mae’r data’n annibynadwy yn y lle cyntaf (er enghraifft oherwydd bod y rheini sy’n gyfrifol am ymateb i’r cyfrifiad yn goramcangyfrif sgiliau Cymraeg eu plant).

 

Mae’r ystadegau uchod a’r dystiolaeth gan arbenigwyr yn awgrymu mai cyfyngedig iawn yw cyfraniad y sector cyfrwng Saesneg at greu siaradwyr Cymraeg. Mae’n ymddangos bod tua 80% o ddisgyblion Cymru yn dilyn cwricwlwm a threfniadau addysgu’r Gymraeg nad yw yn ei hanfod yn arwain at ruglder yn y Gymraeg.

Mae’r casgliadau hyn o Gymru hefyd yn adlewyrchu’r dystiolaeth sy’n deillio o lenyddiaeth academaidd ryngwladol ar fodelau addysg sy’n arwain at ddwyieithrwydd. Mae tystiolaeth hynod gryf o’r ymchwil ryngwladol yn dangos llwyddiant addysg drochi fel model sy’n galluogi plant i ddod yn rhugl mewn iaith leiafrifol, a hynny heb unrhyw effeithiau negyddol ar eu cyrhaeddiad yn yr iaith fwyafrifol, nac ychwaith ar eu perfformiad ar draws weddill y cwricwlwm. Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu’n gryf nad yw dysgu iaith leiafrifol fel ail-iaith yn debygol o arwain at ddwyieithrwydd.

Er bod yr ymchwil academaidd ar addysg ddwyieithog yn gallu bod yn ddyrys, mae’r neges gyffredinol yn un weddol syml. Os yw dwyieithrwydd yn nod i’r sector addysg yng Nghymru fel modd o gyrraedd targedau strategaeth 2050, yna rhaglen addysg lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio fel cyfrwng dysgu ar gyfer rhan sylweddol o’r cwricwlwm sy’n debygol o greu unigolion gwirioneddol ddwyieithog. Mae sicrhau dwyster mewnbwn cyfrwng Cymraeg yn ystyriaeth hanfodol wrth gynllunio darpariaeth iaith ar draws y cwricwlwm. Yn y cyd-destun hwn mae’n hollbwysig ystyried y cyd-destun cymdeithasol ac ieithyddol yng Nghymru, lle bo’r Gymraeg yn iaith leiafrifol, a’r Saesneg yn iaith sydd drechaf yn niwylliant boblogaidd a chyfryngol byd eang. Gan nad yw’n faes chwarae gwastad rhwng iaith fwyafrifol ac iaith leiafrifol yng nghyswllt y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru, derbynnir, yn sicr yn achos disgyblion iau, fod angen i gyfran yr addysg a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg fod yn ddwysach na’r Saesneg.

4. Cwestiynau a phryderon am ddatblygiad y cwricwlwm newydd

4. 1. Y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg

Nid yw’n glir beth yw goblygiadau argymhellion Donaldson i gwricwlwm y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae’n ymddangos fod amryw o’r argymhellion o ran y Gymraeg wedi’u hysgrifennu o safbwynt ysgolion cyfrwng Saesneg, ac nid oes ystyriaeth o’r gwahaniaethau sylweddol sy’n bodoli rhwng ysgolion yng Nghymru.

Un o brif argymhellion Donaldson yw y dylai ‘ysgolion ganolbwyntio o’r newydd ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel ffordd o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu a deall yr iaith lafar’. Mae hyn yn ddigon rhesymol o safbwynt ysgolion cyfrwng Saesnegefallai, ond lle mae hyn yn gadael disgyblion yn y sector cyfrwng Cymraeg? Mae mwyafrif disgyblion yn y sector cyfrwng Cymraeg yn rhugl ac yn deall yr iaith lafar erbyn diwedd blwyddyn gyntaf eu haddysg statudol. Mae Donaldson hefyd yn pwysleisio bod angen i’r Gymraeg gael ei hystyried yn sgil sydd angen ei ddatblygu a’i ymarfer ar draws y cwricwlwm. Dyma, wrth gwrs, yw hanfod addysg cyfrwng Gymraeg ac felly mae’n anodd gweld perthnasedd yr argymhellion hyn i’r sector hwn.

Mae Donaldson hefyd yn argymell y dylid ail-lunio cymwysterau iaith Gymraeg yn 16 oed â’r pwyslais arfaethedig ar siarad, gwrando a defnyddio’r iaith yn y gweithle. Unwaith eto, mae’r argymhellion hyn yn gwneud synnwyr mewn cyd-destun addysg cyfrwng Saesneg, ond byddai'r rhain yn ddisgwyliadau hynod isel i fyfyrwyr mewn addysg cyfrwng Gymraeg.

Cwestiynau i’r pwyllgor eu hystyried:

§    Er bod y cysyniad o gontinwwm ieithyddol yn awgrymu bod angen meddalu rhywfaint ar y ffiniau rhwng sectorau addysg gwahanol yng Nghymru, mae’n amlwg y bydd angen (yn y tymor byr o leiaf) i’r cwricwlwm newydd adlewyrchu’r gwahaniaethau sylfaenol sy’n bodoli rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion cyfrwng Saesneg. Sut bydd trefniadau ymarferol addysgu’r Gymraeg, a gweddill y cwricwlwm newydd, yn amrywio rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog, a chyfrwng Saesneg?

§    Sut bydd un cwricwlwm ac un continwwm ieithyddol yn gallu gosod disgwyliadau a chanlyniadau addysgu addas ar gyfer disgyblion y sector cyfrwng Cymraeg a disgyblion y sector cyfrwng Saesneg? A yw hyn yn rhesymegol bosibl ac yn ddelfrydol?

Y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwngSaesneg

Rwyf yn cytuno’n llwyr â’r Llywodraeth bod angen newid y sefyllfa gyfredol lle mae mwyafrif disgyblion Cymru yn dilyn rhaglen addysgol nad yw’n arwain at ddwyieithrwydd. Nid yn unig mae’n fater o anghydraddoldeb cymdeithasol, mae hefyd yn hollol eglur na fydd gweledigaeth a thargedau Cymraeg 2050 yn cael eu gwireddu oni bai bod rhywbeth radical yn cael ei wneud i newid y sefyllfa bresennol.

Un rhan o strategaeth y Llywodraeth i weddnewid y sefyllfa gyfredol yw cynyddu nifer y disgyblion sy’n cael addysg cyfrwng Gymraeg neu ddwyieithog. Rhan arall o’r strategaeth yw newid deilliannau ieithyddol y disgyblion hynny sydd yn y sector cyfrwng Saesneg. Yn y cyd-destun hwn, mae strategaeth Cymraeg 2050 y Llywodraeth yn gofyn inni symud o sefyllfa lle nad yw’r sector cyfrwng Saesneg yn cyfrannu fawr ddim at greu siaradwyr Cymraeg rhugl a hyderus, i sefyllfa lle bydd 50% o ddisgyblion y sector yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg ar ddiwedd eu haddysg. O ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd uchod (rhan 3 yn benodol) mae’n amlwg bod angen newidiadau pellgyrhaeddol er mwyn cyflawni hyn.

Yr hyn nad yw’n eglur yng nghynlluniau a strategaethau’r Llywodraeth ar hyn o bryd yw sut yn union y bwriedir cyflawni hyn. Mae’r Llywodraeth yn nodi mai cyflwyno cwricwlwm newydd, diddymu Cymraeg ail iaith a chyflwyno un continwwm ieithyddol ar gyfer dysgu ac addysgu’r Gymraeg fydd yn gyrru’r newidiadau pellgyrhaeddol i’r sector addysg cyfrwng Saesneg. Nid yw datganiadau o’r fath, fodd bynnag, yn egluro beth yn union fydd y newidiadau eu hunain. Hynny yw, nid yw ymrwymo i ddiddymu Cymraeg ail iaith a datblygu un continwwm ar gyfer disgrifio ac asesu sgiliau ieithyddol disgyblion gyfystyr ag egluro sut y bwriedir gwella safonau yn y sgiliau hyn yn y lle cyntaf. Ar hyn o bryd mae’n anodd iawn gweld beth yw’r diwygiadau arwyddocaol sydd am wyrdroi deilliannau ieithyddol disgyblion yn y sector addysg cyfrwng Saesneg.

Y prif ffactor dros ddiffyg cynnydd yn sgiliau Cymraeg disgyblion yn y sector addysg Saesneg yw’r ffaith eu bod yn dilyn model addysg cyfrwng Saesneg nad yw yn ei hanfod, ac fel y dengys ymchwil Gymreig a rhyngwladol, yn creu unigolion dwyieithog. Er bod y Llywodraeth yn awyddus i gael gwared â chanlyniadau ieithyddol Cymraeg ail iaith, nid yw’n eglur a ydynt yn ymrwymo i newid yr amgylchiadau addysgol a strwythurol sy’n arwain at y canlyniadau hyn yn y lle cyntaf. O ystyried y sefyllfa gymdeithasol-ieithyddol sy’n bodoli yng Nghymru heddiw, mae’n anodd gweld sut gall unrhyw newidiadau i gwricwlwm, cymwysterau, neu ddulliau dysgu o fewn model addysg ‘cyfrwng Saesneg’ arwain at y deilliannau a ragwelir yn strategaeth Cymraeg 2050 y Llywodraeth. Mae hyn yn arbennig o wir o gofio bod gweledigaeth Cymraeg 2050 yn trafod hyfywedd a defnydd yr iaith, yn ogystal â’r nifer sy’n gallu siarad Cymraeg.

Ar brydiau mae’n ymddangos bod y Llywodraeth yn ystyried newidiadau sylweddol o'r fath fel rhan o’r broses o ‘ddiddymu Cymraeg ail iaith’ ac i gyflwyno’r cwricwlwm a’r continwwm newydd. Er enghraifft, mae Cynllun Gweithredu 2018-19 Cymraeg 2050 yn nodi’r bwriad i ‘adolygu’r broses ar gyfer cynyddu cyfran yr addysgu a’r dysgu cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion’. Yn ogystal â hyn, comisiynodd y Llywodraeth ddau ddarn o waith ymchwil ar ddulliau effeithiol o addysgu ail-iaith gyda’r pwrpas penodol o arwain y gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm o ran y Gymraeg. Mae’r ddau ddarn ymchwil yn awgrymu mai’r dull mwyaf effeithiol o greu siaradwyr dwyieithog mewn cyd-destun iaith leiafrifol yw drwy ddefnyddio dull Dysgu Cynnwys ac Iaith Integredig (DCII). Er bod cryn amrywiaeth yn bodoli ynglŷn â threfniadau a natur DCII mewn cyd-destunau gwahanol, mae’r dull yn seiliedig ar athroniaeth addysg drochi. Hynny yw, mae DCII yn seiliedig ar yr egwyddor bod angen defnyddio’r iaith darged (Cymraeg yn achos Cymru) yn gyfrwng dysgu am ran sylweddol o’r cwricwlwm, a bod i hyn fanteision o ran caffael ail iaith a hefyd o ran cynyddu dealltwriaeth o’r pwnc dan sylw. Byddai gweithredu’r argymhellion hyn yn golygu i bob pwrpas newid cyfrwng iaith ysgolion. Byddai mabwysiadu dull DCII yn golygu bod rhan sylweddol o’r cwricwlwm yn cael ei haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fyddai i bob pwrpas yn golygu symud o fodel addysg cyfrwng Saesneg i fodel addysg ddwyieithog. Mae hefyd amryw o bwyntiau gweithredu yn ymwneud â datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu presennol, a fyddai wrth gwrs yn angenrheidiol er mwyn cyflwyno cwricwlwm yn ddwyieithog.


 

Cwestiynau i’r pwyllgor eu hystyried:

§    Yn ôl taflwybr i’r miliwn Llywodraeth Cymru, yn 2031 bydd y sector cyfrwng Saesneg yn creu 8,500 o siaradwyr Cymraeg fesul blwyddyn ysgol, ac yn 10,500 fesul blwyddyn ysgol yn 2050. Beth yw’r newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno i’r sector cyfrwng Saesneg er mwyn cyflawni’r targedau hyn, o gofio wrth gwrs nad yw’r sector yn cyfrannu fawr ddim at y nod o greu siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd?

§    Beth yw gweledigaeth y Llywodraeth o ran natur a chyfrwng ieithyddol y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn ydyfodol?

§    Sut bydd y cwricwlwm a’r continwwm ieithyddol yn hwyluso’r newidiadau sydd eu hangen?

§    Os yw’r Llywodraeth yn bwriadu gweithio yn raddol i gynyddu cyfran y cwricwlwm sy’n cael ei haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yna beth yw’r strategaeth ar gyfer gyrru’r newidiadau hyn? Yn wahanol i’r cynlluniau manwl ynglŷn ag ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, nid yw'n glir bod strategaeth yn bodoli ar gyfer gweithredu’r fath newidiadau pellgyrhaeddol i’r sector addysg cyfrwng Saesneg.

Y cwricwlwm a’r gweithlu

Er bod rhywfaint o amwyster ynglŷn â natur y cwricwlwm newydd o ran y Gymraeg, mae’n amlwg mai un ffactor allweddol i lwyddiant y diwygiadau fydd sicrhau bod digon o athrawon sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n debyg bod hyn yn adlewyrchu egwyddor fwy cyffredinol ynghylch pwysigrwydd athrawon i wireddu holl weledigaeth Donaldson.

Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn cynnwys targedau penodol i gynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu dysgu’r Gymraeg, a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Ffigur 8: Nifer athrawon cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd ac uwchradd rhwng 2010 i 2018 a thargedau Cymraeg 2050 o ran athrawon cyfrwng Cymraeg

 

10/11

11/12

12/13

13/14

14/15

15/16

16/17

17/18

2021

2031

2050

Athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg

2,812

2,872

2,869

2,934

2,891

2,867

2,853

2,827

3,100

3,900

5,200

Athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg

1,848

1,779

1,870

1,851

1,751

1,659

1,664

1,772

2,200

3,200

4,200

 

Ffigur 9: Nifer y myfyrwyr yn cwblhau cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru, yn seiliedig ar Gofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)

 

12/13

13/14

14/15

15/16

16/17

 

Ysgol Gynradd

Wedi hyfforddi i addysgu yn Gymraeg

160

150

145

145

115

 

Heb hyfforddi i addysgu yn Gymraeg

510

520

480

495

525

 

Ysgol Uwchradd

Wedi hyfforddi i addysgu yn Gymraeg

100

145

115

80

80

 

Heb hyfforddi i addysgu yn Gymraeg

705

610

570

450

425

 

Mae Cynllun gweithredu Cymraeg 2050 (2018-19) a Chynllun gweithredu'r Gymraeg mewn addysg 2017-21 yn cynnwys amryw o bwyntiau gweithredu penodol er mwyn cynyddu’r nifer o athrawon sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Erenghraifft mae Cynllun gweithredu y Gymraeg mewn addysg 2017-21 yn cynnwys:

 

§    Gweithio gyda chonsortia rhanbarthol â Chyngor y Gweithlu Addysg, gan ddefnyddio’r holl ffynonellau data sydd ar gael, i greu darlun llawn o sgiliau Cymraeg ymarferwyr a’u gallu i addysgu drwy gyfrwng yGymraeg.

 

§    Datblygu’r gwaith o gynllunio’r gweithlu i gynyddu nifer yr athrawon a staff cymorth Cymraeg a chyfrwng Cymraeg erbyn 2021 i gynnwys rôl addysg gychwynnol i athrawon, Rhaglen Addysg i Raddedigion, cymelldaliadau, athrawon cyflenwi a dysgu proffesiynol.

§    Sicrhau bod rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon yn y dyfodol yn meithrin gwerthfawrogiad athrawon dan hyfforddiant o’r Gymraeg ac yn darparu cyfleoedd iddynt ddatblygu eu hyfedredd yn y Gymraeg a’u harbenigedd i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’u hyfforddiant cychwynnol.

§    Gwerthuso traweffaith y Cynllun Sabothol

Gwyddom hefyd fod y Llywodraeth wedi cynyddu’r cymhelliad ariannol sydd ar gael drwy’r Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr sydd am hyfforddi i addysgudrwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolionuwchradd.

Er bod amryw o gynlluniau yn bodoli felly, nid yw’n glir a fydd y rhain yn arwain at y cynnydd mewn athrawon cyfrwng Cymraeg sydd ei angen er mwyn gwireddu strategaeth Cymraeg 2050. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried y diffyg cynnydda welwyd yn ystod oes y Strategaeth Addysg Gymraeg flaenorol (2010-2017). Er mai un o amcanion y strategaeth honno oedd adeiladu capasiti a sgiliau’r gweithlu cyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o athrawon i gefnogi’r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ni welwyd unrhyw gynnydd ystyrlon yn sgil y strategaeth hon (gweler ffigur 7).

Mae’r pryderon hyn yn cael eu hategu gan gyhoeddiad diweddar y Llywodraeth - ‘Gwerthusiad o Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Gychwynnol I Athrawon’. Mae’r adroddiad yn amlygu difrifoldeb y sefyllfa gyfredol o fewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn benodol. Mae’r adroddiad yn nodi bod amryw o ysgolion uwchradd yn cael trafferth recriwtio athrawon ar gyfer swyddi gwag, a bod rhai ysgolion yn gorfod penodi staff di-Gymraeg neu sydd â Chymraeg gwan iawn, gan nodi ei bod yn ‘well cael rhywun na neb o gwbl’. Nodir yn yr adroddiad bod rhai ysgolion uwchradd yn manteisio ar ewyllys da athrawon sydd wedi ymddeol fel ateb ‘dros dro’ i’w hanawsterau recriwtio a’i bod yn eithaf cyffredin symud athrawon presennol i addysgu pwnc mewn maes lle'r oedd prinder.

Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod angen i ddarpariaeth AGA cyfrwng Cymraeg bron ddyblu nifer yr hyfforddeion sy’n cael eu hyfforddi’n flynyddol er mwyn cyrraedd targedau 2031 o ran nifer o athrawon cyfrwng Cymraeg. Nid yw hyn yn ystyried y rhai sy’n debygol o adael y proffesiwn dros y tair blynedd ar ddeg nesaf, na chwaith y nifer gynyddol o athrawon cyfrwng Cymraeg fydd eu hangen ar y sector cyfrwng Saesneg yn sgil newidiadau i’r cwricwlwm cenedlaethol. Ar hyn o bryd nid oes targedau clir wedi’u gosod i’r partneriaethau AGA achredig o ran nifer o hyfforddeion cyfrwng Cymraeg y dylent fod yn anelu at eu recriwtio yn flynyddol er mwyn gwireddu targedau Cymraeg 2050.

 

Cwestiynau i’r pwyllgor eu hystyried:

§    A yw cynlluniau presennol y Llywodraeth o ran y gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa gyfredol, a maint yr her sy’n bodoli er mwyn cyflawni amcanion Cymraeg 2050?

§    A oes perygl y bydd diffyg athrawon cyfrwng Cymraeg yn tanseilio rhan sylfaenol o strategaeth Cymraeg 2050, a hefyd yr amcanion o ran y Gymraeg sy’n rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru?

§    A ddylai’r Llywodraeth ystyried cynlluniau mwy radical er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n bodoli yn y cyd-destun hwn? Er enghraifft, i ba raddau mae’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu argymhellion yr adroddiad diweddar ar ddarpariaeth AGA cyfrwng Cymraeg yn llawn?

Gobeithio bydd y sylwadau hyn o gymorth ichi wrth graffu ar ddatblygiad y cwricwlwm newydd i Gymru.

 

Meri Huws
Comisiynydd y Gymraeg